newyddion
Mae pobl flaenllaw o'r diwydiant yn ogystal ag academyddion o Gymru a thu hwnt wedi ymgynnull ar gyfer y gynhadledd ryngwladol yn Aberystwyth.
Ymhlith y siaradwyr mae Prif Weithredwr S4C a dau o'i rhagflaenwyr yn y swydd, ynghyd â Phennaeth Rhaglenni Cymraeg BBC Cymru Keith Jones a Chyfarwyddwr Comisiynu S4C Rhian Gibson.
Mae Rhys Evans hefyd ymhlith y siaradwyr, awdur cofiant y diweddar Gwynfor Evans wnaeth fygwth ymprydio hyd farwolaeth yn 1980 oni bai bod y llywodraeth yn sefydlu sianel deledu Gymraeg.
Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth a'r Llyfrgell Genedlaethol sydd wedi trefnu'r gynhadledd.
Yn ei hanerchiad i gynadleddwyr, mae Iona Jones, a benodwyd yn Brif Weithredwr S4C yn 2005, yn canolbwyntio ar yr heriau sy'n wynebu'r sianel mewn oes o ddarlledu digidol, aml-blatfform.
Testun ei rhagflaenwyr Huw Jones (Prif Weithredwr S4C 1994-2005) a Geraint Stanley Jones (Prif Weithredwr S4C 1986-1994) yw'r datblygiadau arwyddocaol yn ystod eu cyfnodau nhw wrth y llyw.
'Croniclo a chloriannu'
Dyddiau cynnar y sianel sydd o dan sylw cyfarwyddwr rhaglenni cyntaf S4C Euryn Ogwen Williams a fydd hefyd yn sôn am rai o'r penderfyniadau allweddol a wnaed yn y misoedd yn arwain at y darllediad cyntaf ar 1 Tachwedd 1982.
Yno hefyd mae Gweinidog Treftadaeth Llywodraeth y Cynullliad, Rhodri Glyn Thomas AC.
"Mae'n fraint bod y gynhadledd yma wedi llwyddo i ddenu cynifer o bobl sydd wedi arwain datblygiad S4C dros y chwarter canrif diwethaf," meddai'r Athro Elan Closs Stephens o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth, a fu'n gadeirydd Awdurdod S4C o 1998-2006.
"Bydd y gynhadledd hon yn gofnod o gyfnod pwysig yn hanes darlledu yng Nghymru. Ein nod yw croniclo a chloriannu chwarter canrif cyntaf Sianel Pedwar Cymru.
"Byddwn hefyd yn ystyried y dimensiwn rhyngwladol ac yn canolbwyntio ar themâu penodol fel datblygiad y sector annibynnol, polisi ieithyddol a chyfleoedd digidol."
http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7 070000/newsid_7075500/7075552.stm

http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7

Comments